Dewch â'ch cynlluniau yn fyw

Fel aelod o Smart Money Cymru, mae gennych fynediad at ystod o fenthyciadau unigryw hyd at £15,000. Po fwyaf y byddwch chi’n ei fenthyg, y lleiaf yw’r gyfradd llog hefyd.

Os yw’ch cyflogwr yn rhan o’n Cynllun Cyflogres, yna gallwch hefyd elwa o’n Benthyciadau Cyflogres – sydd yn cynnig cyfraddau llog sydd hyn yn oed yn well i chi nag ar ein benthyciadau arferol!

Cipolwg ar ein benthyciadau

Gwnewch gais am fenthyciad heddiw gyda chyfraddau llog sy'n addas i chi!

Benthyciadau Smart Personol

Benthyciadau Smart Personol

O 12.70% APR

Dysgu mwy
Benthyciadau Cyfuno

Benthyciadau Cyfuno

O 12.70% APR

Dysgu mwy
Smart Goods

Smart Goods

42.60% APR

Dysgu mwy
Benthyciadau Nadolig

Benthyciadau Nadolig

42.60% APR

Dysgu mwy
Benthyciadau Cyflogres

Benthyciadau Cyflogres

O 9.40% APR

Dysgu mwy

Cyfrifiannell Benthyciad

Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell benthyciad isod

Uchafswm y benthyciad :
Uchafswm hyd y benthyciad :

£

Term

Ad-dalu pa mor aml
£
APR
0%
# Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
0%
# Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
0%
# Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
0%
# Ad-daliadau
Cyfanswm

At ddibenion darluniadol yn unig y mae’r cyfrifiannell hon, i roi crynodeb i chi, y benthyciwr o gost bosib y benthyciad. Ni all Undeb Credyd nag unrhyw un o’i staff fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau. Sylwer mai dim ond rhoi dyfynbris dangosol y mae’r cyfrifiannell hon a gall ad-daliadau go iawn amrywio.

Ddim yn Aelod?

Ymuno â Banc Cymunedol Smart Money yw'r penderfyniad gorau y byddwch yn ei wneud i chi a'ch arian. Mae ein haelodau'n elwa o'r cyfraddau benthyca isaf yn y gymuned, dim taliadau trafodion, dim ffioedd ac mae staff cyfeillgar ar gael i siarad â chi am eich anghenion.

Ymunwch heddiw

Pam benthyca gan Smart Money Cymru?

Rhestr o'r rhesymau mwyaf poblogaidd yr ydym yn darparu benthyciadau yn fisol

Dim cosb ad-dalu cynnar

Ymgeisio cyflym a hawdd

Pobl sy’n edrych ar geisiadau, nid robotiaid

Ad-daliadau cyfradd sefydlog am hyd at 60 mis

Rydyn ni’n eich helpu chi i dyfu’ch cynilion wrth i chi ad-dalu’ch benthyciad

Mae ein cyfraddau llog yn dryloyw, ac yn is na llawer o fanciau’r stryd fawr

Benthyciadau Cwestiynau Cyffredinol

Cwestiynau Cyffredin

Pa mor hir y mae'n rhaid i mi fod yn aelod cyn y gallaf wneud cais am fenthyciad?

Yma yn Smart Money Cymru, rydym yn hapus i dderbyn cais am fenthyciad gennych ar yr un pryd ag y byddwch yn ymuno. Nid oes raid i chi gynilo am gyfnod o amser yn gyntaf!

Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio fy benthyciad?

Gallwch fenthyca arian oddi wrthym ni am nifer o resymau. Isod mae rhestr o’r rhesymau mwyaf poblogaidd rydyn ni’n darparu benthyciadau yn fisol, ond os nad yw’ch rheswm chi yma, cysylltwch â ni i ofyn.

  • Prynu car newydd
  • Atgyweirio ceir
  • DIY
  • Tirlunio
  • Dathlu – Priodasau, Partïon
  • Costau Angladdol
  • Biliau Milfeddygon
  • Annisgwyl
  • Biliau Meddygol Annisgwyl
  • Gwariant Nadolig
  • Gwisgoedd Ysgol
  • Gwyliau -Tramor neu gartref
  • Cyfuno dyledion
Pa mor fuan y gallaf wneud cais am fenthyciad atodol?

Yma ym Manc Cymunedol Smart Money Cymru, rydym yn deall bod argyfyngau’n digwydd ar yr adegau mwyaf annisgwyl, felly gall aelodau wneud cais am ychwanegiad at eu benthyciadau ar unrhyw adeg a bydd y Tîm Tanysgrifennu yn gwneud asesiad o’r cais.

Gwrthodwyd benthyciad i mi; beth alla i ei wneud?

Os gwrthodwyd benthyciad i chi, bydd y rheswm dros wrthod wedi cael ei egluro’n llawn i chi; fodd bynnag, rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn parhau i gynilo gyda ni i helpu ceisiadau am fenthyciadau yn y dyfodol.

A fyddwch chi'n ymchwilio i fy statws credyd?

Efallai y byddwn yn cynnal chwiliad asiantaeth cyfeirio credyd llawn er mwyn gwirio eich gallu i ad-dalu benthyciad a hefyd i egluro bod y wybodaeth a roddir ar y cais am fenthyciad yn gywir. Defnyddir y wybodaeth a dderbyniwn o’r chwiliad credyd fel offeryn gan ein Tîm Tanysgrifennu, yn ogystal â llawer o ffactorau eraill sy’n cael eu hystyried. Byddwch yn agored ac yn onest gyda ni i’n galluogi i wneud y penderfyniad cywir.

Pam mae angen i chi weld fy nghyfriflenni banc a slipiau cyflog?

Mae Smart Money Cymru yn fenthyciwr cyfrifol ac weithiau mae angen i ni sicrhau eich bod chi’n gallu fforddio’r ad-daliadau yn gyffyrddus cyn i ni gymeradwyo benthyciad, yn ogystal a chynilo gyda ni. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu credyd fforddiadwy, nid dyled anfforddiadwy.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael penderfyniad?

Ar ôl derbyn yr holl ddogfennau perthnasol, ein nod yw rhoi penderfyniad ar fenthyciad o fewn 24 awr (gallai hyn newid yn ystod cyfnodau arbennig o brysur, fel y Nadolig). Cysylltir â chi os oes gennym unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cais.

Rwy'n poeni am fy ngallu i ad-dalu fy menthyciad, pa gymorth ydych chi'n ei ddarparu?

Ni fyddem yn darparu benthyciad i chi pe na baem yn teimlo y gallwch ei ad-dalu a rhoi rhywfaint o arian o’r neilltu yn eich cynilion ar yr un pryd. Nid ydym yma i annog credyd am ddyled, ond credyd i’ch helpu gyda’ch cyllid. Byddem yn gofyn yn daer ichi roi galwad inni fel y gallwn drafod eich sefyllfa bersonol a rhoi cyngor i chi.

Sut alla i gyfrifo faint gallaf ei fenthyg?

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell benthyciadau! Bydd hyn yn rhoi syniad da iawn i chi faint y gallwch chi ei fenthyg oddi wrthym ni, a syniad hefyd o faint fydd yr ad-daliadau misol. Gallwch hefyd roi galwad i ni drafod hyn.

Barod i Ymgeisio?

Ydych chi'n barod i wneud cais neu a oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein benthyciadau fforddiadwy? Cliciwch ar y botwm "Gwneud cais nawr" i gychwyn eich taith ar hyn o bryd neu cliciwch ar y botwm "Cysylltu â ni" i anfon neges atom os nad ydych yn siŵr am eich dogfennaeth, neu os oes gennych gwestiynau eraill o hyd. I wneud cais am unrhyw un o'n benthyciadau, bydd angen i chi fod yn aelod i ni, i ddarganfod mwy am ymuno â'n banc cymunedol cliciwch y botwm "Ymunwch heddiw" isod.

Gwneud cais nawr Cysylltu â ni Ymunwch heddiw

Angen trafod ad-daliadau?

Bydd ein tîm rheoli credyd yn cysylltu â chi yn ôl