Os yw’ch cyflogwr yn un o’n partneriaid cyflogres a’ch bod yn cynilo gyda ni yn awtomatig trwy ddidyniadau o’ch cyflogres, yna gallwn gynnig cyfradd llog benthyciad ffafriol i chi trwy ein Benthyciadau Cyflogres.
Gallwch fenthyg hyd at £ 15,000 ac ad-dalu’r benthyciad dros 60 mis. Mae’r gyfradd llog yn well na gyda’n Benthyciadau Smart arferol gan wneud yr ad-daliadau hyd yn oed yn fwy fforddiadwy a hyblyg!
Gallwch gael Benthyciad Cyflogres Arian Smart at bron unrhyw bwrpas:
- Prynu car newydd
- Biliau annisgwyl (biliau anifeiliaid anwes er enghraifft)
- Dodrefn
- DIY gartref
- Tirlunio
- Gwyliau
- Priodasau neu ddathliadau eraill
Gallwn hefyd eich helpu i ail gyllido’ch dyledion mewn i un Benthyciad Cyflogres fforddiadwy – fydd yn gwneud eich dyledion yn fwy hylaw a chyfnewid eich holl ddyledion llog uchel gyda un ad-daliad misol fforddiadwy.
Mae gwneud cais am Fenthyciad Cyflogres gan Smart Money Cymru yn syml. Pwyswch y ddolen neu ffoniwch ein swyddfa am sgwrs gydag un o’n cynghorwyr cwsmeriaid cyfeillgar
Er mwyn asesu’r cais am fenthyciad, bydd angen inni weld cyfriflenni banc y tri mis diwethaf o gyfrif banc yr ymgeisydd. Ar y cam olaf o’r cais ar-lein, mae’n rhoi opsiwn i chi ddefnyddio ein cyswllt bancio agored i ddarparu cyfriflenni banc er mwyn cefnogi’r cais. Rydym yn argymell fod bob aelod sydd â chyfleuster bancio ar-lein i’w cyfrifon banc yn defnyddio’r ddolen sy’n rhoi caniatâd i ni weld y cyfriflenni. Bydd defnyddio’r ddolen hefyd yn sicrhau ymateb cyflym i’r cais am fenthyciad. Ar gyfer aelodau nad ydynt yn bancio ar-lein, gofynnwn iddynt ddod a 3 mis o gyfriflenni papur i mewn i un o’n canghennau er mwyn cefnogi’r cais.
Gellir cynnal gwiriad credyd ar ymgeiswyr sydd am fenthyca gan Fanc Cymunedol Smart Money Cymru.
Ymunwch Heddiw