Smart Money Cymru yw’r Banc Cymunedol sydd a’r twf cyflymaf yng Nghymru, ac os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ymuno â ni heddiw!
Rydyn ni yma i gefnogi ein cymuned. Mae tyfu a gwella ein gwasanaethau ar gyfer ein cymuned a’n haelodau yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn. Dewch yn rhan o’r mudiad cyffrous hwn trwy ymuno â ni heddiw.
Cewch dawelwch meddwl o wybod y byddwch, trwy ddod yn aelod o Smart Money Cymru, yn cefnogi eich cymuned leol ac yn ymuno â mudiad byd-eang sy’n rhoi pobl o flaen elw
Mae llawer o fuddion i fod yn aelod o undeb credyd:
- Mynediad unigryw i fenthyciadau personol hyd at £ 15,000
- Mynediad i SmartGoods
- Ffordd hawdd o ddod yn gynilwr rheolaidd gyda’r tawelwch meddwl o yswiriant bywyd am ddim
- Mynediad 24 awr i weld eich cyfrif
- Dod yn rhan o sefydliad lleol sy’n rhoi ei aelodau yn gyntaf
- Diogelir eich cynilion gan Warant FSCS ac rydym yn cael ein rheoleiddio yn union fel banciau’r Stryd Fawr
- Mwynhewch gyfraddau llog ar fenthyciadau nas cynigir gan fenthycwyr eraill
- Rydym wedi talu difidend blynyddol i’n aelodau yn gyson am yr 20 mlynedd diwethaf, ar gyfraddau llog cynilo uwch na llawer o fanciau’r stryd fawr
- Byddwch yn rhan o sefydliad ariannol moesegol
- Rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cwsmeriaid sydd ar gael i helpu pob un aelod fel ei gilydd. Mae’n adolygiadau’n adlewyrchu hyn, felly rydych wastad mewn dwylo saff