Cynilion Anweledig

Rhan o’n cenhadaeth yw grymuso ein haelodau yn ariannol, ac annog aelodau i wneud penderfyniadau arian craff. Mae ein gwasanaeth cynilo cyflogres yn golygu bod cynilo hyd yn oed yn haws i chi fel cyflogwr er mwyn helpu eich gweithwyr i gynilo bob mis. Mae’n fudd penigamp i’ch gweithwyr!

Mae gennym nifer o fusnesau ledled Cymru sydd wedi sefydlu didyniad o’r cyflogres gyda ni, sy’n galluogi eu gweithwyr i gynilo trwy gael arian wedi’i ddidynnu yn syth o’u cyflog a’i anfon yn uniongyrchol atom ni.

Buddiannau Cyflogwyr

Mae nifer o fuddion i chi fel cyflogwr o ddarparu’r cyfleuster hwn i’ch staff, mae’r rhain yn cynnwys:

Byddwch yn darparu budd staff gwerthfawr a all helpu wrth recriwtio a chadw staff

Mae pobl sy’n cynilo’n rheolaidd yn gallu ymdopi’n well â straen ariannol neu gost annisgwyl

Lleihau salwch / absenoldeb staff

Trwy ein hyrwyddo i’ch gweithwyr mae yn fath o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a phersonol

Budd-daliadau Gweithwyr

A thrwy hyn bydd eich staff yn elwa o’r canlynol:

Mynediad at gyfraddau benthyciad ffafriol

Ffordd gyfleus a hawdd o gynilo

Dechreuwch heddiw

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Smart Money Cymru fel cyflogwr sy’n cynnig cynilion cyflogres, cysylltwch â ni heddiw.

Os ydych chi’n gyflogai nad yw’ch cyflogwr eisoes wedi ymuno â Smart Money Cymru, pam na ofynnwch iddynt roi galwad i ni? Rydym wrth ein bodd yn lledaenu’r gair, a helpu mwy o bobl i drin eu harian yn ddoethach.

Cysylltu â ni