Ymunwch â Smart Money Cymru heddiw!
Byddwch yn rhan o’n cymuned gefnogol, Smart Money Cymru! Ymunwch fel aelod heddiw a mwynhewch amrywiaeth o fanteision. Gall pawb sy’n byw yng Nghymru ddod yn aelod, a chael mynediad i’n cynnyrch cynilo, benthyciadau a Smart Goods unigryw.
Buddion o Ymaelodi
- Mynediad unigryw i fenthyciadau personol hyd at £ 15,000
- Mynediad i SmartGoods
- Ffordd hawdd o ddod yn gynilwr rheolaidd gyda’r tawelwch meddwl o yswiriant bywyd am ddim
- Mynediad 24 awr i weld eich cyfrif
- Dod yn rhan o sefydliad lleol sy’n rhoi ei aelodau yn gyntaf
- Diogelir eich cynilion gan Warant FSCS ac rydym yn cael ein rheoleiddio yn union fel banciau’r Stryd Fawr
- Mwynhewch gyfraddau llog ar fenthyciadau nas cynigir gan fenthycwyr eraill
- Rydym wedi talu difidend blynyddol i’n aelodau yn gyson am yr 20 mlynedd diwethaf, ar gyfraddau llog cynilo uwch na llawer o fanciau’r stryd fawr
- Byddwch yn rhan o sefydliad ariannol moesegol
- Rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cwsmeriaid sydd ar gael i helpu pob un aelod fel ei gilydd. Mae’n adolygiadau’n adlewyrchu hyn, felly rydych wastad mewn dwylo saff
I ddysgu mwy am Fanc Cymunedol Smart Money Cymru, darllenwch ein hadran Amdanom, ac os nad ydych yn siŵr eto am ymuno, gallwch naill ai gysylltu â ni am sgwrs gyda chynghorydd cwsmeriaid neu ddarllen ein tudalen Pam Ymuno.
Sut i ymuno
I ddod yn aelod, bydd angen i chi dalu blaendal cyfranddaliadau o £ 5.00 er mwyn gweithredu eich cyfrif, ac ar ôl ei dalu, cewch eich ailgyfeirio yn ôl i’r dudalen cais.
Gallwch ymuno â ni ar-lein trwy glicio yma a chwblhau’r ffurflen gais ar-lein yn llawn.
Ddim yn gallu cofrestru ar-lein?
Gallwch lawrlwytho Ffurflen Gais Aelodaeth a’i dychwelyd i’r Brif Swyddfa naill ai trwy’r post neu e-bost ynghyd â’r dulliau gwirio adnabod a chyfeiriad perthnasol.
Banc Cymunedol Smart Money Cymru
64 – 66 Ffordd Caerdydd
Caerffili
CF83 1JQ
E-bostiwch y ddogfennaeth i info@smartmoneycymru.co.uk