Ein Stori

Dechreuodd Smart Money Cymru ym mis Hydref 1989 fel Undeb Credyd Penyrheol, Energlyn a Trecaith, gan weithio o Eglwys St Andrews. Yn 1993, symudodd y Gwirfoddolwyr i Ysbyty Energlyn ac ym 1995 cawsant eu cyfrifiadur cyntaf yn rhodd gan Gyngor Caerffili a’r Cylch. Cyflogwyd yr aelod staff cyntaf â thal ym 1998.

Yn 2000, ymestynnodd yr ardal bond gyffredin i gwmpasu Basn Caerffili cyfan ac agorwyd y swyddfa bwrpasol gyntaf yn Stryd Clive, Caerffili yn 2001. Yn 2002, cymeradwywyd estyniad y bond cyffredin i gynnwys Cwm Rhymni.

Yn 2005, symudodd yr Undeb Credyd lawr y ffordd i Stryd Windsor ac erbyn mis Hydref 2006, roeddent yn cyflogi y pumed aelod o staff ac wedi ymestyn y bond cyffredin i gwmpasu Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfan.

Ffurfiwyd Undeb Credyd Smart Money Cymru Cyf ym mis Gorffennaf 2008 yn dilyn uno Undebau Credyd Caerffili a’r Cylch a Blaenau Gwent (Save-it) a chyflogwyd aelod arall o staff.

Ym mis Mawrth 2010 cymeradwyodd yr Awdurdod Gwasanaeth Ariannol estyniad pellach o’n bond cyffredin i gwmpasu ardal Casnewydd.

Fe symudon ni i’r adeilad presennol ar Stryd Fawr, Caerffili ym mis Gorffennaf 2013 ac yn 2017 agorodd ein cangen gyntaf yn Mlaenau Gwent ar Stryd y Castell yn Nhredegar er mwyn dod yn fwy hygyrch a ehangu ymhellach.

Cymeradwywyd ‘Bond Cyffredin Cymru Gyfan’ yn 2019 ac ym mis Mehefin 2020, fe wnaethom uno ag Undeb Credyd Cymunedol Islwyn i ddarparu mynediad gwell i drigolion ardaloedd Caerffili a’r Coed Duon at wasanaethau Undeb Credyd. Cwblhawyd uno pellach rhwng Undeb Credyd Plaid Cymru a SMCCU ym mis Medi 2020.

Ble rydym ni nawr?

Yn ystod 2021 gwelwyd Smart Money Cymru yn gwella ein systemau digidol ar draws yr holl gynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r aelodaeth wedi cynyddu’n gyson, gan ddarparu gwell mynediad at gyllid cost isel i’r rheini o fewn ein ardal bond gyffredin ac i gefnogi’r rhai sydd wedi’u gwahardd yn ariannol.

Bellach, gelwir Undeb Credyd Smart Money Cymru yn Fanc Cymunedol Smart Money Cymru ac ym mis Hydref 2021, byddwn yn lansio cynhyrchion ‘Smart Goods’. Deillia hyn o’r bartneriaeth rhwng CSupplies a Smart Money Cymru.

Bellach mae gennym dîm o staff amser llawn a rhan amser sy’n ymroddedig i dwf a chynaliadwyedd Smart Money Cymru ac mae llu o wirfoddolwyr hefyd yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r Pwyntiau Gwasanaeth Cymunedol sydd ar gael mewn sawl ardal.

Buddion o Ymaelodi

  • Mynediad unigryw i fenthyciadau personol hyd at £ 15,000
  • Mynediad i SmartGoods
  • Ffordd hawdd o ddod yn gynilwr rheolaidd gyda’r tawelwch meddwl o yswiriant bywyd am ddim
  • Mynediad 24 awr i weld eich cyfrif
  • Dod yn rhan o sefydliad lleol sy’n rhoi ei aelodau yn gyntaf
  • Diogelir eich cynilion gan Warant FSCS ac rydym yn cael ein rheoleiddio yn union fel banciau’r Stryd Fawr
  • Mwynhewch gyfraddau llog ar fenthyciadau nas cynigir gan fenthycwyr eraill
  • Rydym wedi talu difidend blynyddol i’n aelodau yn gyson am yr 20 mlynedd diwethaf, ar gyfraddau llog cynilo uwch na llawer o fanciau’r stryd fawr
  • Byddwch yn rhan o sefydliad ariannol moesegol
  • Rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cwsmeriaid sydd ar gael i helpu pob un aelod fel ei gilydd. Mae’n adolygiadau’n adlewyrchu hyn, felly rydych wastad mewn dwylo saff
Ymunwch heddiw
Beth Sy'n Gwneud Ni'n Wahanol?

Banc Cymunedol yw Smart Money Cymru sy’n cynnig gwasanaethau ariannol i bobl Cymru. I gymharu â banc y stryd fawr, mae ein gwerthoedd, ein cenhadaeth a’n gweledigaethau yn wahanol iawn. Rydym yma ar gyfer cymuned aelodau sy’n rhan o Smart Money Cymru, i’w helpu i gynilo neu fenthyg arian, ac i fod yn fwy craff gyda’u penderfyniadau ariannol.

Yr ydym am rymuso ein haelodau a’n cymunedau, ac yr ydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol. Rydym yn darparu benthyciadau fforddiadwy a chydnerthedd ariannol gydag amrywiaeth o gyfrifon cynilo, gan weithio gyda rhandaliad ledled Cymru, darparu addysg ariannol a chefnogi a rhoi i achosion da.

Yn fwy na dim, mae gennym ein cymuned wrth wraidd popeth a wnawn. Yn wahanol i’ch banciau ar y stryd fawr, gallwch gysylltu â ni naill ai ar y ffôn, drwy e-bost neu yn ein canghennau a thrafod eich arian gyda chynghorydd cwsmeriaid cyfeillgar. Dros amser, mae’n debyg y byddwch yn dod i adnabod y tîm!

Rheoliadau a Chydymffurfiaeth

Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru, fel pob Banc Cymunedol ac Undeb Credyd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) i weithredu fel Sefydliad Ariannol a mae’n gweithredoedd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r PRA i sicrhau ein bod yn cwrdd â’n gofynion cyfreithiol fel sefydliad ariannol. Pe byddech yn dymuno gwirio ein cofrestriad gyda’r naill neu’r llall o’r rhain, ein Cyfeirnod Cwmni (FRN) yw 213370

Archwilir SMCCB yn fewnol gan y tîm cydymffurfio mewnol, ac yn allanol gan Bevan a Buckland LLP a bydd hwy yn adrodd i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr etholedig sy’n cyflwyno’r canfyddiadau hyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Mae unrhyw Gyfarwyddwr sy’n gwasanaethu o dan Gyfundrefn Uwch Reolwr a gymeradwywyd gan yr FCA a’r PRA yn cael ei fetio’n drylwyr gan y sefydliad ac, ar brydiau, gan yr PRA a’r FCA.

Mae gan Fanc Cymunedol Smart Money Cymru yswiriant helaeth fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, i dalu yn erbyn unrhyw gamweddau gan Staff neu Gyfarwyddwyr a sicrhau bod arian pob aelod yn ddiogel, yr un fath â sefydliadau ariannol eraill. Mae gennym hefyd bolisïau yswiriant cynhwysfawr angenrheidiol eraill, megis yswiriant adeiladau, fel bod ein haelodau’n gwybod eu bod bob amser yn ddiogel wrth ymweld â ni.

Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru wedi’i gofrestru gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel rhan o Y Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data 2018 fel cwmni sy’n cadw/dal data ar ei aelodau. Mae hyn yn golygu, pe bai SMCCB yn camddefnyddio’ch data, mae gennych hawl i gwyno i’r ICO. Ein cyfeirnod gyda’r ICO yw Z4777869.

Yn olaf, mae’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn cwmpasu Smart Money Cymru i ddarparu iawndal i unrhyw aelod o Fanc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd sy’n mynd yn fethdalwr.

Os byth bydd angen i chi fel aelod wneud cais am gyfranddaliadau a ddelir gan SMCCB nad oedd yn bosibl eu talu’n ôl i chi oherwydd ansolfedd, mae gan adneuwr cymwys yr hawl i hawlio hyd at £85,000. Ar hyn o bryd, balans cyfranddaliadau o £10,000 yn unig y caniateir i aelodau SMCCB gael.

I gael rhagor o wybodaeth am yr iawndal a ddarperir gan y cynllun FSCS (gan gynnwys y symiau a gwmpesir a’r cymhwysedd i hawlio) gofynnwch yn eich cangen leol o Fanc Cymunedol Smart Money Cymru neu ewch i wefan FSCS.

Hybiau Bancio Cymunedol yn Smart Money Cymru

Mae ein Hybiau Bancio Cymunedol wedi’u lleoli mewn canolfannau a hybiau cymunedol lleol ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Phowys i ddarparu mannau cyfleus i aelodau dalu i mewn i’w cyfrifon neu ddarganfod mwy am wasanaethau a chynnyrch Smart Money Cymru. Gall ein gwirfoddolwyr hyfforddedig eich cefnogi ym mhob agwedd ar ddefnyddio eich cyfrifon Smart Money.

Rydym yn chwilio am leoliadau newydd i ddarparu gwasanaethau i drigolion lleol ynddynt. Os hoffech ddarganfod mwy am sut y gall Banc Cymunedol Smart Money Cymru fod o fudd i'ch cymuned leol, cysylltwch â ni heddiw.

Blaenau Gwent Hybs

Ebbw Vale

Ebbw Vale Institute
Church StreetChurch
Ebbw Vale
NP23 6BE

Abertillery

Ebenezer Baptist Church
Park Place
Abertillery
NP13 1ED

Caerphilly Borough Hybs

Gelligaer

Neuadd St. Catwg’s Community Hall
Church Road
Gelligaer
CF82 8FW

Phillipstown

Phillipstown Community House
Phillipstown
New Tredegar
NP24 6BG

Powys Hybs

Builth Wells

Community Support Office
1 Groe Street
Builth Wells
LD2 3DW

Llandrindod Wells

The Herb Garden Café
Station Crescent
Llandrindod Wells
LD1 5BB

Llanwrtyd Wells

The Well
Zion Street
Llanwrtyd Wells
LD5 4RD

Knighton

The Civic Centre
West Street
Knighton
LD7 1EN

Ystradgynlais

Ystradgynlais Library
Temperance Lane
Ystradgynlais
SA9 1JJ

Eisiau sefydlu Hyb Bancio Cymunedol?

Cysylltu â ni