Ymunwch gan ddefnyddio'ch ffôn
Rydyn ni wedi creu dull deallus a diogel i chi ddod yn aelod yn uniongyrchol trwy eich ffôn symudol. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho ein Ap Symudol i fanteisio'n llawn ar ymuno wrth fynd.
Gwiriad Wyneb Diogel
Rydym yn defnyddio technoleg wyneb biometrig uwch i ddal a gwirio pwy ydych chi. Yn syml, cymerwch hunlun cyflym ac rydych chi wedi gorffen. Mae'r dechnoleg reddfol hon, yn sicrhau bod dod yn aelod yn gyflymach nag erioed.
Gwiriad Adnabod Dibynadwy
Rydyn ni wedi creu ffordd i chi rannu prawf adnabod gyda ni sy'n ddiogel ac yn ddibynadwy. Wrth i chi symud ymlaen â'ch cais, byddwch yn cael cyfle i ddangos eich ID yn y fan a'r lle. Does dim aros o gwmpas.
Mynediad cyflym ar-lein
Unwaith y bydd eich aelodaeth wedi'i chymeradwyo, byddwn yn anfon rhif PIN dros dro atoch fel y gallwch gael mynediad ar unwaith i'ch cyfrif ar-lein. Ni fydd yn rhaid i chi boeni am unrhyw beth, fe wnawn ni'r gweddill.
Er mwyn cychwyn ar eich taith Aelodaeth Ar-lein, bydd angen i chi lawrlwytho ein Ap Symudol. Dadlwythwch heddiw a medi'r buddion o ddod yn aelod.
AR GAEL YN FUAN
Sut i ddechrau
Lawrlwythwch ein Ap Symudol
Sicrhewch fod gennych ID dilys yn barod
Cwblhewch y ffurflen
wiriwch eich Hunaniaeth
Llwythwch y dogfennau gofynnol i fyny
Eisteddwch yn ôl ac aros i ni adolygu a chymeradwyo eich aelodaeth
Ymaelodwch Cwestiynau Cyffredinol
Cwestiynau Cyffredin
Mae Banciau Cymunedol fel Smart Money Cymru yn sefydliadau ariannol nid-er-elw sy’n aml yn cael eu sefydlu gan aelodau sydd â’r hyn a elwir yn bond cyffredin er mwyn cynnig cynilion a benthyciadau.
Gall bond cyffredin olygu eich bod yn rhannu rhywbeth cyffredin – eich bod yn byw mewn tref neu sir benodol, neu fod yn rhan o ddiwydiant neu undeb llafur penodol. Ar gyfer Banc Cymunedol Smart Money Cymru, ein bond cyffredin yw ein bod yn byw yng Nghymru – mae hynny’n golygu os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ymuno â’n Banc Cymunedol.
Yn y bôn, mae Banciau Cymunedol fel BCSMC yn ‘eiddo’ i’w haelodau – mae gan bob aelod lais cyfartal ac rydym yn annog pob un o’n haelodau i bleidleisio yn ein Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.
Mae Banciau Cymunedol yn dibynnu ar eu haelodau. Rydym yn eich helpu i reoli eich cyllid mewn ffordd graff, trwy eich annog i gynilo yr hyn y gallwch yn rheolaidd a benthyg dim ond yr hyn y gallwch fforddio ei ad-dalu. Mae aelodau’n cronni eu cynilion gyda’i gilydd, i fenthyca i’w gilydd a helpu i redeg Banc Cymunedol Smart Money Cymru.
Po fwyaf rydych chi’n ei gynilo, y mwyaf y gallwn ni helpu eraill yn eich cymuned leol. Gallwn gynnig cyfraddau llog llawer is ar fenthyciadau na benthycwyr eraill hefyd, ac mae unrhyw log a wneir ar fenthyciadau yn mynd yn ôl i Smart Money Cymru i redeg y gwasanaethau a gynigiwn ac i wobrwyo ein haelodau.
Yma yn Smart Money Cymru, rydym wedi rhoi difidend yn gyson i’n haelodau dros yr 20 mlynedd diwethaf – mae pob aelod yn elwa o fod yn rhan o’n hundeb credyd.
Caiff! Yn draddodiadol, y gred oedd mai dim ond ar gyfer y rhai oedd yn ei chael hi’n anodd cyrchu gwasanaethau banciau y stryd fawr oedd Banciau Cymunedol, ond nid dyna’r gwirionedd – mae Smart Money Cymru yma ar gyfer pawb! Mae pob Banc Cymunedol yn rhannu cenhadaeth debyg – cefnogi eu cymuned, helpu i addysgu ei aelodau am y defnydd craff o arian ac i helpu aelodau i reoli eu materion ariannol.
Darganfyddwch fwy am pam y dylech ymuno â Banc Cymunedol Smart Money Cymru trwy glicio yma.
Ydy, mae’n rheidrwydd i bob Banc Cymunedol dderbyn yr un amddiffyniad ag unrhyw fanc stryd fawr arall.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn dymuno ymuno â Smart Money Cymru, cofrestrwch ar-lein heddiw. Rydyn ni bob amser ar gael i helpu os ydych chi am drafod ein gwasanaethau – gallwch chi hefyd ddarganfod mwy amdanon ni trwy glicio yma.