01 Hydref 2021
5 Ffordd 'Smart' i Ddechrau Cynilo Heddiw
Yma yn Smart Money Cymru, ein prif bwrpas yw eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol a hyderus yn ariannol a’ch grymuso. Mae cael cyfrif cynilo a chyfrannu ato’n rheolaidd yn un ffordd o gyflawni hynny.
Pam ddylech chi gael cyfrif cynilo yn y lle cyntaf?
Mae bod yn hyderus yn ariannol yn golygu y byddwch chi’n dod yn fwy ymwybodol o’ch cyllid, ac yn neilltuo arian am amryw o resymau. Er enghraifft- fel cronfa frys petasai’r boeler yn torri, neu efallai er mwyn sefydlu cronfa cynnal, felly, pe byddech chi allan o waith am gyfnod hir, bydd gennych chi ddigon o arian wedi’i gynilo i’ch cadw’i fynd. Wrth gwrs, gall cyfrifon cynilo hefyd fod yn gronfa wrth gefn, yn wyliau haf neu wireddu breuddwyd!
Mae rhoi arian o’r neilltu yn fisol fel rhan o’ch cyllideb yn ffordd wych o gynilo’n hyderus, heb roi gormod o bwysau ar eich costau misol. Er mwyn eich lles ariannol eich hun – mae hefyd yn golygu eich bod chi’n gwybod bod gennych arian ar gael pe byddai ei angen.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, neu os ydych chi wedi cael trafferthion o’r blaen – gadewch i ni helpu. Dyma 5 ffordd i fynd i’r afael a chynilo eleni.
1. Talu’ch dyledion
I ddechrau cychwyn, y peth cyntaf i’w wneud, sy’n weddol amlwg hwyrach, yw talu unrhyw ddyled sydd gennych cyn dechrau rhoi arian o’r neilltu mewn cyfrif cynilo. Rydych yn annhebygol iawn o ennill mwy o log ar eich cynilion na’r hyn rydych chi’n ei dalu ar eich benthyciadau. Ceisiwch dalu dyledion drud fel cardiau credyd neu gardiau siop cyn i chi gynilo.
2. Araf deg mae ei dal hi…
Peidiwch â meddwl bod yn rhaid i chi dalu swm enfawr o arian i mewn i gyfrif cynilo ar unwaith – y peth pwysicaf yw sefydlu’r arferiad o gynilo. Wyddoch chi, bydd cynilo dim ond £2 y dydd yn tyfu’n £730 dros y flwyddyn? Sef £14 yr wythnos!
Mae’n bwysicach sicrhau eich bod chi’n cyllidebu’n dda, a bod arian ar gael yn eich cyllideb i roi yn eich cynilion.
3. Cadwch eich cynilion arwahân
Mae cadw’ch cynilion yn eich cyfrif cyfredol yn ormod o demtasiwn. Byddem yn argymell yn fawr y dylid sefydlu cyfrif cynilo ar wahân fel nad oes mynediad hawdd iddo. Nid yw hyn yn golygu cael cyfrif na allwch gael mynediad iddo, ond; gan bod yr arian mewn cyfrif gwahanol, ni fydd yn gymaint o demtasiwn i’w wario. Gallwch ddarganfod mwy am ein Cyfrifon Cynilo yma.
4. Ennill llog ar eich cynilion
Yn dibynnu ar eich rhesymau dros agor cyfrif cynilo, gallwch ddod o hyd i raddfa llog dda – yn enwedig os ydych chi’n gwybod nad ydych chi eisiau mynediad i’r cyfrif hwnnw er enghraifft. Serch hynny, byddwn yn argymell eich bod yn cymharu’r taliadau difidend a roir gan undebau credyd fel ni, gyda llog. Darllenwch fwy yma.
5. Sefydlu Archeb Sefydlog neu dalu mewn drannoeth diwrnod cyflog
Y ffordd orau o bell ffordd i ddechrau ar eich cyfrif cynilo yw ymrwymo i archeb sefydlog, neu dalu i mewn i’ch cyfrif y diwrnod ar ôl diwrnod cyflog!
Gobeithio y bydd y 5 awgrym yma yn eich helpu i fynd i’r afael a’ch cyfrif cynilo newydd yn syth. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau pellach, byddem wrth ein bodd yn eu clywed! Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn mwy o awgrymiadau yn wythnosol.