25 Mawrth 2022
Mark White Prif Swyddog Gweithredol Banc Cymunedol Smart Money Cymru yn esbonio pam fod cynilo gyda'r sefydliad yn ddiogel ac yn werth ei wneud
Mae mwy a mwy o bobl yn cynilo gyda’n Banc Cymunedol – ac er mwyn diolch iddynt rydym am dreblu’r difidend a gewch bob blwyddyn pan fyddwch yn cadw’ch arian gyda ni.
Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru (SMCCB) yn lloches diogel ar gyfer eich cynilion gwerthfawr, ac fe’i cefnogir gan gynllun FSCS Llywodraeth y DU sy’n gwarantu hyd at £85,000.
Ac yn ogystal â cadw’ch arian yn ddiogel, eleni gallwn gynnig difidend uwch o 0.75% ar eich arian, un o’r enillion gorau i’w gael yn unman.
Mae gwreiddiau SMCCB yn y Mudiad Undebau Credyd, a ddechreuodd er mwyn rhoi sicrwydd i gymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd diwydiannol, o berthyn i sefydliadau ariannol cryf a mynediad at gyllid teg. Yn yr un modd, rydym ni yn cefnogi eich cynilion gydag yswiriant bywyd am ddim.
Os bydd Aelod yn marw, byddwn yn dyblu eu cynilion hyd at uchafswm o £5000 er mwyn talu am yr angladd neu ddarparu etifeddiaeth i’w teulu a’u hanwyliaid. Bydd benthyciadau sy’n ddyledus hefyd yn cael eu cynnwys dan yswiriant os bydd Aelod yn marw.
Mae cadw’ch cynilion mewn sefydliad lleol o fudd i’r gymuned yn ogystal â’r cynilwr unigol. Yn hytrach na chreu elw i gyfranddalwyr o bell, bydd yr arian yn cael ei roi yn ôl i’r system ar gyfer ein Haelodau, ac eleni rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu fforddio’r difidend uwch hwn.
Rhan hanfodol o rôl sefydliad ariannol di-elw yn y gymuned fel ein sefydliad ni yw cryfhau ac atgyfnerthu’r economi leol. Mae benthyca i’n haelodau yn golygu bod arian yn tueddu i gael ei wario’n lleol ac felly mae cyfoeth yn cael ei ddiogelu o fewn yr ardal, yn hytrach na llifo allan.
Fel sefydliad di-elw, sy’n eiddo i’w aelodau, yr ydym yn cymeradwyo’r cysyniad o’r economi ‘gylchol’ ar gyfer adeiladu busnesau a chefnogi cyflogwyr lleol.
Yn yr un modd a bod ein cwsmeriaid yn cynilo mwy o arian gyda ni, mae nifer yr Aelodau sydd gennym hefyd yn cynyddu’n gyson, gyda dros 8000 yn elwa o fedru cael mynediad at eu harian a’u gwasanaethau ariannol mewn tair cangen hwylus, sydd a staff croesawgar yng Nghaerffili, y Coed Duon a Thredegar.
Wrth edrych i’r dyfodol rydym yn bwriadu adeiladu ar ein mynediad trwy wella’r gwasanaethau a gynigiwn yn barhaus. Bydd hyn yn golygu gwell platfform meddalwedd, cerdyn debyd newydd, penderfyniadau cyflymach ar fenthyciadau a llawer o newidiadau eraill sydd ar y gweill gennym.
Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru yma i gynnig gwasanaethau ariannol gwell a thecach i bobl leol ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda theuluoedd ac unigolion lleol i wella ansawdd eu bywydau. Os hoffech wybod mwy, galwch heibio i un o’n tair cangen neu ewch ar-lein: www.smartmoneycymru.co.uk.