13 Hydref 2021
Smart Money Cymru yn agor siop ar-lein i'r Aelodau
Bellach gall aelodau un o Undebau Credyd Cymru brynu poptai, oergelloedd, setiau teledu ynghyd ag ystod enfawr o nwyddau cartref eraill o siop ar-lein.
Mae Smart Money Cymru wedi creu cyswllt â’r cyflenwr CSL i gynnig y gwasanaeth newydd, o’r enw Nwyddau Smart/Smart Goods, i’w 7000 o aelodau. Mae CSL yn arbenigo mewn cynnig catalog o dros 5000 o nwyddau o’r ansawdd uchaf i gymunedau difreintiedig ac incwm isel, gan weithio gyda’r sector elusennol a sefydliadau ariannol lleol.
Esboniodd Mark White, Prif Swyddog Gweithredol Smart Money, a leolir yng Nghaerffili, y Coed Duon a Thredegar, fod y gwasanaeth wedi’i anelu at helpu pobl nad oes ganddynt hwyrach gofnod credyd da, ac sy’n ei chael hi’n anodd cael at gyllid gan fanciau’r Stryd Fawr a benthycwyr confensiynol.
“Gwneir penderfyniadau benthyca fwyfwy gan systemau awtomataidd yn seiliedig ar gofnodion credyd. Effaith hyn yw eithrio niferoedd cynyddol o bobl rhag benthyca rhesymol, eu cosbi i bob pwrpas a chynyddu anawsterau ariannol, ”meddai Mr White.
“Gall problemau i sicrhau cyllid wneud pobl yn anobeithiol a’u gyrru tuag at gyllid llog uchel neu hyd yn oed i ddwylo benthycwyr diegwyddor, anghyfreithlon.”
“Rydyn ni’n gweithio i dorri’r cylch hwnnw a darparu cyllid teg a fforddiadwy i’n haelodau, trwy gymryd golwg gyfannol hirdymor.”
“Mae Nwyddau Smart/Smart Goods yn ei gwneud yn bosibl i deuluoedd ar incwm isel brynu’r nwyddau maent eu hangen a’u heisiau ar gyfer bywyd bob dydd.”
Ariennir pryniannau Nwyddau Smart/Smart Goods trwy fenthyciadau gan yr undeb credyd i’w aelodau, a gellir gwneud cais am y rhain ar-lein, neu’n bersonol mewn cangen Smart Money. Mae’r holl gostau wedi’u nodi a’u hegluro’n glir, ac nid oes unrhyw dâl am ddod yn aelod o’r undeb credyd.
Gwneir y siopa ar-lein, trwy wefan Smart Goods, sy’n cynnig bwndeli ‘cychwynnol’ cyfleus i aelodau sy’n symud i gartref newydd – mae’r rhain yn cynnwys pecynnau ystafell wely, cegin ac ystafell ymolchi yn ogystal ag eitemau eraill defnyddiol. Yna danfonir y nwyddau i’r drws gan CSL.
“Mae’n gyfleus ac yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae ein staff yn Smart Money ar gael i gefnogi aelodau drwy’r cais am fenthyciad a gwneud y pryniant,” meddai Mr White.
“Rydyn ni’n credu y bydd y cynllun hwn yn hynod boblogaidd ac y bydd yn helpu llawer iawn o bobl yr ardal,” ychwanegodd Mr White.